Adeiladu’r Hydro

Yn dilyn proses tendro yn 2014, cyflogwyd dau gontractiwr i adeiladu’r hydro. Peirianneg Sifil Gelli i adeiladu’r tŷ tyrbin a'r gored a Chwmni Kevin Williams Earthworks i osod y lein bibell.


Yn dilyn seremoni i bentrefwyr ar y 4ydd Mai 2015, lle wnaeth y preswylwyr hynaf ac ieuangaf a anwyd yn Abergwyngregyn dorri'r dywarchen gyntaf gyda’i gilydd, cyrhaeddodd Gelli ar y safle ar y 5ed o Fai i ddechrau gwaith ar y tŷ tyrbin. Dechreuodd Kevin Williams ar y lein bibell ar y 11 Mai.

Aeth gwaith adeiladu yn ei flaen yn ddidrafferth gyda gwaith y ddau gontractiwr yn dod i ben ar ddiwedd mis Medi 2015.

Fodd bynnag, wnaeth Scottish Power fethu rhaglennu eu gwaith i osod yr is-bwerdy yn y tŷ tyrbin ac i uwchraddio'r cyflenwad trydan o'r pentref i gyd-fynd gyda chwblhau’r gwaith adeiladu. Dechreuwyd gwaith ar yr is-bwerdy yng nghanol mis Tachwedd ond ni ddechreuwyd ar waith uwchraddio'r cyflenwad trydan tan tuag at ddiwedd y mis ac erbyn hynny oedd y tywydd wedi troi oedd yn achosi oediad arall.

Ym mhen hir a hwyr cwblhawyd y gwaith uwchraddio a chysylltu gyda'r grid ar y 27 Tachwedd 2015 a dechreuwyd ar waith comisiynu'r offer yn syth. Daethy gwaith comisiynu i ben ar y 30ain o Dachwedd gyda chwblhad llwyddiannus y Profion G59 ac fe wnaeth Hydro Anafon ddechrau cynhyrchu’n llawn ac allforio trydan i'r grid ar y 1af Rhagfyr, un mis cyn ein dyddiad targed gwreiddiol.