Mae Anafon Hydro yn gynllun colofn-uchel rhediad-afon.


Mae gored isel yn bwydo dŵr i mewn i bibell 3 km o hyd sydd wedi ei chladdu. Mae’r bibell ddŵr yn disgyn cyfanswm o 230 medr fertigol, i ddechrau yn dilyn glan ogleddol yr afon ac wedyn yn ei chroesi ar bont bibell i’r lan ddeheuol cyn mynd i mewn i Goedydd Aber. Yma, mae hi’n dilyn llwybr y goedwig i lawr i’r tŷ tyrbin sydd wedi ei leoli fymryn oddi mewn i’r fynedfa i Warchodfa Natur Genedlaethol Rhaeadr Aber.

Mwyafswm yr ynni a gynhyrchir yw 270 KW er bydd yn amrywio yn gymesur â llif y dŵr yn yr afon. Mae’r ynni a gynhyrchir gan y tyrbin yn cysylltu â’r Grid Cenedlaethol trwy linell newydd i’r llinellau pwer presennol 150 m o’r tŷ tyrbin. I wneud hyn, roedd angen uwchraddio’r llinellau presennol o’r is-orsaf yn y pentref tua 1 km islaw’r man cysylltu.

Cynhaliwyd archwiliad dichonoldeb llaw gan John Howarth, Gwasanaethau Hydrobwer John Howarth, Dr Rod Gritten, (Gritten Ecology), ac arbenigwyr ar is-gytundebau . Y Datganiad Amgylcheddol a gynhyrchwyd o ganlyniad i hyn oedd sail ceisiadau i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer Trwyddedau Tyniad a Llociad ac i Awdurdod Cynllunio Parc Cenedlaethol Eryri. Rhoddwyd caniatâd cynllunio i’r cynllun yn Rhagfyr 2013 a rhodwyd y Trwyddedau Tyniad a Llociad yn Awst 2014.