Lleoliad Hydro Anafon

Mae safle Hydro Anafon yn Nyffryn Anafon yn ucheldir y Carneddau sydd i’r ochr Ddeheuol o Abergwyngregyn ar ffin Ogleddol Parc Cenedlaethol Eryri a 4km i’r Gorllewin- De-Orllewin o Lanfairfechan.

Tarddiad Afon Anafon yw Llyn Anafon sef hen lyn cwm gafodd ei ddefnyddio fel cronfa rhyw 5.1km i’r De-Orllewin o’r pentref. Mae’r afon yn disgyn yn sydyn drwy rostir am 3.3km ac wedyn drwy Goedydd Aber i ymuno a’r Afon Rhaeadr uwchlaw Bontnewydd. Mae’r rhagnentydd hyn yn creu Afon Aber sydd yn llifo am 2.3km drwy’r pentref a thiroedd amaethyddol cyn llifo i’r môr  ar Draeth Lafan. Mae’r afon  yn disgyn 558 medr o Lyn Anafon i’r môr  dros belter o 5.6km.

Mae’r gronfa mewnlif 1.4km islaw’r llyn sy’n rhoi talgylch o 5.05 km2 ar uchder o 230 medr.