Mae Rhaeadr Aber, ym Mharc Cenedlaethol Eryri, yn adnabyddus fel atyniad i ymwelwyr. Yma ym mhentref Aber, cawn lawer iawn o ymwelwyr sydd yn mwynhau cerdded i Raedr Aber ac ymhellach i fynyddoedd y Carneddau. Mae man parcio ger mynedfa Coedydd Aber (£5 y diwrnod ar hyn bryd) lle’r cychwyna’r llwybr at y Rhaeadr, ond mae’r ffordd drwy’r pentref yn gul gydag ychydig iawn o fanau pasio. Golyga hyn fod tagfeydd difrifol ac oedi’n digwydd ar benwythnosau a Gwyl y Banc. I osgoi hyn, rydym yn annog ymwelwyr i ddefnyddio’r man parcio islaw’r pentref, sydd yn rhad ac am ddim, a cherdded I fyny’r dyffryn. Mae Tŷ Pwmp ac ochr y ffordd lle mae arddangosfa o hanes Aber a Thywysogion Gwynedd yn ogystal a chyfleusterau cyhoeddus. Hefyd mae Caffi Alma ar gyrrion y pentref a’r Hen Felin yng nghanol y pentref gyda’i gaffi a’i Ganolfan Gymdeithasol.
Menter Cymdeithasol ydyw Cynllun Hydro Anafon. Nid yw’r peirianwaith cynhyrchu ar yr Afon Rhaeadr ond ar ragnant arall, sef Afon Anafon, yn y Dyffryn nesaf. Daw’r dwr i yrru’r tyrbin allan o’r afon yn uchelder y Carneddau a dychwela i’r afon islaw cwt y tyrbin. Sefydlwyd Ynni Anafon Energy Cyf. a Corffolaeth Budd Cymdeithas, yn 2014, yn berchennog a rheolwr y cynllun gyda’r bwriad o greu elw er lles cymunedau lleol.
Ein bwriad oedd adeiladu cynhyrchydd trydan hydro er mwyn:
Amgylchedd
Codi cyfraniad ynni adnewyddol o’r safle tra’n gwarchod yr ecoleg lleol, y tirwedd a’r amgylchedd.
Egni
Cynhyrchu oddeutu 1 GWh y flwyddyn, digon i gyflenwi 230 o gartrefi ac i osgoi gollwng 19,000 tunnell o CO2 i’r amgylchedd dros y deugain mlynedd cyntaf o oes yr orsaf.
Cymuned
Cael incwm sylweddol i gynal egni effeithlon, tanadeiledd a blaengarwch cymunedol yn Abergwyngregyn a Llanfairfechan.