Ariannu’r Cynllun

Roedd costau dechreuol datblygu’r cynllun, gan gynnwys archwiliadau dichonoldeb, cais am ganiatâd cynllunio, cais am drwyddedau tyniad a llociad, cyngor ar strwythurau gweinyddu, ffioedd cyfreithiol, cytundeb atal ar gyfer y cysylltiad grid, a.y.y.b., wedi eu talu gan gymorthdaliadau, adnoddau a chefnogaeth a ddarparwyd gan Ynni’r Fro, Cwmni Adfywio Abergwyngregyn, Her Ynni Cymunedol Cydweithredol, yr Ymddiriedolaeth Genelaethol, Gwynedd Werdd, y Waterloo Foundation, Canolfan Cydweithredu Cymru, yr Hwb Menter Cydweithredol a Chydweithredoedd y DU.

Roedd Gwasanaethau Hydrobwer John Howarth wedi amcangyfrif £1.25m fel y costau dylunio ac adeiladu cynllun Anafon fel a ganlyn:

  • Costau datblygu’r cynllun - £60,000
  • Costau adeiladu’r cynllun - £1,055,000
  • Wrth gefn - £134,000

Fel roedd yn digwydd, adeiladwyd hydro Anafon ar gyfanswm cost o £1.1m, bron yn hollol unol gydag amcangyfrif John Howarth.

Daeth arian cyfalaf i'r prosiect o ddwy ffynhonnell. Ar 13 Medi 2014 lansiwyd Ynni Anafon Energy, cynnig cyfranddaliadau cymunedol wnaeth ddenu £450,900 o fuddsoddiad erbyn cau'r cynnig ym Mawrth 2015, gyda'r mwyafrif o gyfranddalwyr yn byw yn lleol ond gyda rhai eraill o weddill Prydain ac o dramor. Codwyd arian ychwanegol trwy fenthyciad banc o £546,100 o'r Charity Bank sydd yn ad-daladwy dros 15 mlynedd. Mewn gwirionedd, talwyd y fenthyciad yn ol yn 2022, gan adael swm gweinyddiaeth er lles y gymuned.

Cliciwch isod i weld cadarnhad dogfennau caniatâd;