Cychwynwyd y syniad o Hydro Anafon gan Gyfarwyddwyr Cwmni Adnewyddiant Abergwyngregyn (CAA) yn cydweithio gyda Keith Jones o’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y prif dirfeddianwr yn Nyffryn Anafon.
Menter gymunedol yw CAA a chwmni cyfyngedig drwy Warant a gorffolaethwyd yn 2002. Fe’i rheolir gan ddeuddeg o gyfarwyddwyr gwirfoddol a thri aelod cyfetholedig o Abergwyngregyn.
Ers ei sefydlu, mae CAA wedi ymgymeryd a nifer o brosiectau cyunedol:
- Codi cyllid grantiau, swm oddeutu £470,000 i brynu ac adnewyddu Yr Hen Felin, hen adeilad cerrig yng nghanol y pentref, fel adnodd cymdeithasol yn mae bellach hefyd yn ei gyfarwyddo. Mae yno ystafell gymunedol, caffi ac ystafell snwcer. Agorwyd Yr Hen Felin ym Mis Mawrth 2006 gan Mrs Betty Williams.
- Codi cyllid grantiau, swm oddeutu £250,000 i brynu ac adnewyddu hen adeilad pwmpio yn y pentre fel canolfan treftadaeth a thoiled i ymwelwyr a ddaw i ymweld â Dyffryn Aber.
- Prynu a datblygu cae bychan yng Nghae’r Felin er mwyn creu man chwarae i blant a lle cymunedol i’r pentref.
- Datblygu maes parcio rhad ar gyfer ymwelwyr ar gyrrau’r pentref.
- Llogi maes parcio Bontnewydd sydd ar gyfer Rhaeadr Aber a Gwarchodfa Natur Cenedlaethol a’r Carneddau gan Awdurdod Parciau Cenedlaethol.
- Dod i gytundeb rheoli gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i redeg maes parcio’r Goedwigaeth sydd ar gyfer Rhaeadr Aber a’r Dyffryn – daw’r meysydd parcio yma a phrif ffynhonnell ariannol i’r cwmni.
Cafodd CAA Wobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol yn 2011. Yn 2010, mewn partneriaeth gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, dechreuodd cyfarwyddwyr CAA wneud astudiaethau ymarferolrwydd o ddatblygu cynllun hydro ar Afon Anafon uwchlaw’r pentref a phenderfynnwyd symyd ymlaen gyda’r fenter.
Roedd cymalau cyntaf y datblygiad, yn cynnwys astudiaethau ymarferolrwydd a sicrhau pob caniatad a hawliau, yn ogystal ac adeiladu’r hydro yn 2015 yn cael eu rheoli gan dri cyfarwyddwr o CAA, sef Jacuqi Bugden, Gavin Gatehouse a Hywel Thomas a oedd yn gweithredu’n wirfoddol gyda chymorth technegol ac arbenigol.
Cliciwch isod i ymweld â gwefan y pentref i gael gwybodaeth am Abergwyngregyn a’r ardal cyfagos.
cwrdd â chyfarwyddwyr ARC sy'n gweithredu'n wirfoddol...
Jacqui Bugden
Gavin Gatehouse