Incwm o’r Hydro
Dros yr 8 mlynedd o weithredu, roedd y cyfanswm o arian ddaeth o werthu trydan a’r Llog Mewnbwn rhwng £128,573 yn 2015-16 a £347,337 yn 2022-23. On yn y cyfnod 2023-24 cododd y cyfanswm i £871,974. ‘Roedd hon yn flwydd arbennig gan ein bod wedi arwyddo Cytundeb Pris Egni a oedd tua 5 gwaith y swm arferol o oddeutu £100 y KWh. Daeth y pris yn ol yn 2024 – 2025 yn agosach i’r pris arferol.
Ers 2017-18, mae’r elw wedi bod rhwng £33,659 a £103,518 y.f. (heblaw 2023-24 gweler uchod). Ar ol sicrhau’r menthyciad banc a thynnu allan gostau rhedeg, defnyddiwyd yr elw dros y ddwy flynedd gyntaf i adeiladu cyfalaf yn ol termau’r fenthyciad ac i fod wrth law mewn argyfwng. O’r drydedd flwyddyn (2017-2018), aeth YAE ati i dalu llog i’r cyfranddalwyr a rhoi elw ymlaen llaw i’r elusen, Dwr Anafon i’w ddosbarthu er budd y gymuned. Mae’r llog a dalwyd I’r cyfranddalwyr wedi aros ar 5% ac yn 2018-19 a’r blynyddoedd canlynnol, ‘rydym wedi gallu trosglwyddo o leiaf £30,000 y.f. i Dwr Anafon er lles y gymuned.
Yn 2018, penderfynnodd Bwrdd YAE Cyf. glustnodi rhan amrywiadwy o’r elw blynyddol i ad-dalu benthyciad Charity Bank. Fel canlyniad, cliriwryd y benthyciad yn llwyr 8 mlynedd yn gynt nac a ddisgwyliwyd. Felly cafodd £56,100 y.f. ei ryddhau er lles y gymuned. Dros y bum mlynedd 2031-35, yn ol amod benthyg tir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer y gronfa a rhan uchaf o’r bibell ddwr, rydym yn cytuno i roi rhodd o £25,000 y.f. mynegrifedig iddynt yn benodol er mwyn gwaith cadwraeth ar y Carneddau. Gan fod y FIT hefyd yn fynegrifiedig, bydd y rhodd yn fforddiadwy tra bydd ein rhoddion i Dwr Anafon yn parhau fel arfer.
Yn 2023-24 arwyddwyd Nodyn Dealltwriaeth gyda Dwr Anafon fod elw ychwanegol o godiad PPA wedi ei drosglwyddo i’r Elusen i’w gadw mewn corlan cyllidol. Bydd y cyllid yma ar gael i ARC drwy gymeradwyaeth ymddiriedolwyr yr elusen i’w ddefnyddio at wariant a gynigir gan ARC. Ar ol blwyddyn 20 (2035), pan ddaw FIT i ben, bydd arian a ddaw i mewn yn hollol ddibynnol ar werthiant trydan.