Sefydlwyd yn 2014

Sefydlwyd Ynni Anafon Cyf. yn 2014 i gwblhau datblygiad Hydro Anafon a’i redeg a’i reoli  ar ol ei sefydlu. Cafodd y Gymdeithas ei gofrestru gyda Cymdeithas  Trefn Arianyddol ar yr 11eg o Fehefin 2014 (rhif cofrestr 32406R).  Mae’r strwythr gyfreithiol yma, sydd yn Gymdeithas Les Cymunedol, yn cael ei reoleiddio gan y CTA ac yn dod o dan reolau sydd yn seiledig ar rai a ddatblygwyd gan Cooperatives UK. 

Mae rheolau Ynni Anafon Energy Cyf. yn sicrhau:

  • Fod asedau yn cael eu defnyddio er lles y gymuned yn fythol drwy “glô asedol”.
  • Mai’r gymuned leol sydd yn gyfrifol am reoli’r cwmi.
  • Fod pob elw’n cael ei fuddsoddi yn y gymuned leol

Lawrlwytho'r rheolau



Cwrdd â'r cyfarwyddwyr sy'n gweithredu'n wirfoddol…


Cymdeithas Annibynnol ydyw Ynni Anafon Energy Cyf. (YAE) a nid isgwmni o Gwmni Adnewyddiant Abergwyngregyn (CAA). Serch hynny, ‘roedd y tri Cyfarwyddwr dechreuol, sef Jacqui Bugden, Gavin Gatehouse a Hywel Thomas hefyd yn gyfarwyddwyr CAA pan ffurfiwyd y Gymdeithas.

Ar y 1af o Fai 2015, gwnaeth cyfranddalwyr Ynni Anafon Energy Cyf. ethol 9 Cyfarwyddwr i eistedd ar y Bwrdd Rheoli newydd, a deuant a chymysgedd eang o brofiadau cymwys i’w canlyn. Gwaith gwirfoddol wna’r Cyfarwyddwyr i gyd. Ar hyn o bryd, dyma’r aelodau:

Gavin Gatehouse

Cyfarwyddwr a Sylfaenydd


Mae Gavin wedi byw yn Abergwyngregyn ers 1973 a magodd ei deulu yno. Ymddeolodd yn 1998 ar ol cyfnod o 26 mlynedd yn Mhrifysgol Cymru, Bangor gyda chyfnod fel Pennaeth Ysgol Gwyddoniaeth Biolegol lle y cafodd brofiad o weinyddiaeth cyffredinol a phersonel ac arianyddol  mewn adran sylweddol prifysgol. Daeth y swyddogaeth yma ynghyd a’i ddiddordebau mewn ymchwil gyda mewn etymoleg trofannol ac ef i gysylltiad â sefydliadau llywodraethol a phreifat led-led y Byd. Mae wedi bod yn rhan o flaengareddau cymunedol a a menter busnesau bach yn Abergwyngregyn, fel cynghorydd cymunedol, fel sefydlwr a Chyn-Gadeirydd Cwmni Atgynhyrchiol Abergwyngregyn. Bu hefyd yn Gadeirydd Pardneriaeth Treftadaeth Dyffryn Aber. Yn bresennol, ef yw Sylfaenwr-Gadeirydd Ynni Anafon Energy Cyf.

Wynn Griffiths


Mae teulu Wynn wedi trigo yn Aber ers cenedlaethau a chafodd ei eni a’i fagu yma. Mae’n ffermio uwchlaw’r pentref ac mae hefyd yn gontractiwr ffensio. Ers blynyddoedd, mae Wynn wedi cymeryd rhan blaenllaw mewn materion cymunedol , yn gwasanaethu fel Ymgynghorydd Cymdeithasol, Cyfarwyddwr  Cwmni Adnewyddiant Abergwyngregyn gyda chyfrifoldeb arbennig am wasanaethu safleoedd parcio Rhaeadr Aber, ac Ymddirieolwr Dwr Anafon, elusen a sefydlwyd i ddosbarthu elw’r hydro er lles y gymuned. 

Rachel Mackereth


Daeth Rachel i Ogledd Cymru yn 1988 I hyfforddi mewn Meddygaeth Cyffredinol ar ol cymhwyso mewn meddygaeth ym Mhrifysgol Southampton. ‘Roedd hi’n bartner mewn meddygfa yng Ngogledd Cymru tan 2019. Symudodd Rachel a’i gwr o Gonwy i Abergwyngregyn yn 2013, i gartref llai wedi i’r plant adael cartref. Mae’n ymddiddori gyda Clwb Garddio’r pentref ac mae wedi cyfrannu tuag at Gwmni Adnewyddiant Abergwyngregyn. Mae Rachel yn mwynhau garddio, nofio ‘gwyllt’ a threulio amser gyda’i theulu.

Ted Mackereth


Daw Ted o’r ardal ac mae’n awr yn byw gyda’i deulu yn Llanfairfechan. Mae ganddo Ddoethyriaeth mewn Astroffiseg a dderbyniodd o Brifysgol John Moores yn Lerpwl. Daliodd swyddi academaidd yn ninasoedd Birmingham a Toronto, Canada cyn dechrau ei swydd presennol fel Gwyddonydd Data. Adeg ei yrfa academaidd, arweiniodd brosiectau ymchwil gan astudio dechreuad ein Galaeth ni sef Y Llwybr Llaethog.  Symudodd wedyn i fyd diwydiant lle mae’n gallu defnyddio ei sgiliau mewn gwaith technolegol cyfrifadurol yn y byd arianyddol.  Mae ganddo gysylltiadau cryf gyda Abergwyngregyn gan fod ei rieni’n byw yma sydd hefyd yn aelodau gweithgar o’r gymuned. Mae’n Ysgrifennydd o Ynni Cymuned Llanfairfechan, menter sy’n bwriadu sefydlu prosiectau cymunedol yn Llanfairfechan.

Linton Roberts


Mae Linton yn byw yn Abergwyngregyn ers deunaw mlynedd gyda’i wraig Philippa a’u tair merch. Yn enedigol o Fangor, cafodd ei addysg yn Ysgol Friars, Bangor. Astudiodd Bensaerniaeth Morwrol a Pheirianneg Alltraeth yn adran Technoleg Morwrol ym Mhrifysgol Strathclyde, dinas Glasgow. Ar ol graddio yn 1994, ymunodd a Cammell Laird ym Mhenbedw fel Pensaer Morwrol.

 Mae Cammell Laird yn gwmni adeiladu llongau sydd ymysg y mwyaf yn y DU ac yn dilyn ei yrfa yno yn y meysydd technegol, cynhyrchu ac arweinyddol, dyrchafwyd ef yn Reolwr-Gyfarwyddwr y Cwmni yn 2008. Yn ystod ei yrfa, bu Linton yn gyfrifol am gyflawni llawer o brosiectau adeiladu a pheirianyddol cymhleth gwerth miliynnau o bunnoedd.

Erbyn hyn mae Linton yn gyfrifol am weithgareddau’r cwmni a thros fil o’r gweithwyr yno.  Ar hyn o bryd, mae’r llong ymchwil ‘RRS Sir David Attenborough’, gwerth £200 miliwn, yn cael ei hadeiladu yno.

 Y ogystal a’i waith yn Cammell Laird, Mae Linton yn aelod o Bwyllgor Technegol Lloyds Register (corff ymgynghorol i’r Gymdeithas Dosbarthiant Forwrol) ac mae hefyd yn ymddiriedolwr o’r Ymddiriedolaeth Kathleen & May(Heritage Schooner).

Martin Taylor


Mae Martin yn enedigol o Ogledd Cymru ac wedi byw yn Llanfairfechan ers 1972. Ymddeolodd yn 2010 ar ôl 40 mlynedd ym Mhrifysgol Bangor ac yn ystod y cyfnod yma penodwyd ef yn Bennaeth Peirianneg Electronig. Hefyd bu yn Ddeon Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg am 3 blynedd. Fel Pennaeth Peirianneg Electronig fe’i etholwyd hefyd i Fwrdd IDB (UWB) Ltd a oedd tan yn ddiweddar yn gwmni o dan berchnogaeth Prifysgol Bangor. Yn ystod ei gyfnod fel Deon roedd yn aelod o Grŵp Cynllunio a Gweithredu'r Brifysgol. Mae o wedi gweithredu fel ymgynghorwr i gwmnïau yn amrywio o SME i rai mawr rhyngwladol yn cynghori ar broblemau cynhyrchu yn ymwneud â thrydan statig. Am nifer o flynyddoedd roedd yn Drysorydd ac yn Ymddiriedolwr Clwb Hwylio Llanfairfechan ac yn fwy diweddar cafodd ei ethol i Fwrdd Ynni Anafon Energy Cyf.

Nikki Whiting 


Mae Nikki wedi byw yn Abergwyngregyn ers 2006, ac yn gweithio yn lleol fel nyrs yn y gymuned. Mae ei gyrfa nyrsio dros 50 mlynedd wedi cynnwys nifer o arbenigaethau. Er erbyn hyn wedi hanner ymddeol, mae hi’n dal i redeg clinic gwrhgeulydd ym mhentref cyfagos Llanfairfechan. Mae hi wedi bod yn aelod o Gwmni Adfywio Abergwyngregyn ers 2012 ac wedi ymuno â'r Bwrdd ers 2015. Wedi ymrwymo i'r cysyniad o ynni adnewyddol mae hi wedi bod yn gefnogwr brwdfrydig o gynllun hydro Ynni Anafon Energy ers y dechrau a chafodd ei chyd-ethol i'r Bwrdd yn 2015.

Hywel Thomas 

Cyfarwyddwr a Sylfaenydd


Mae teulu Hywel wedi byw yn Abergwyngregyn ers saith cenhedlaeth ac mae yntau wedi byw yma gyda’i deulu ers 1988. Yn dilyn 28 mlynedd yn y byd Cynllunio, mae wedi ymddeol yn ddiweddar o fod yn Llywydd Datblygiant Rheoli gydag Adran Cynllunio Cyngor Gwynedd. Mae ganddo brofiad o weithio ar brosiectau cymunedol yn cynnwys adnewyddu’r Hen Felin a gostiodd £470,000. O hynny, cafwyd Canolfan Gymunedol Newydd, Caffi a Chlwb Cymunedol. Am y prosiect yma, derbyniodd CAA wobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol. Ar hyn o bryd, mae’n Gadeirydd a Rheolwr CAA ac yn Ysgrifennydd Ynni Anafon Energy Cyf.

Aled Williams


Yn wreiddiol o ardal LLyn, mae Aled bellach wedi ymddeol o waith llawn amser fel dylunydd electronig gan gymorthwyo canolfan ymchwil amgylcheddol lleol i ddatblygu sustemau  newydd. Wedi graddio ym Mangor, aeth i Cheltenham lle bu'n arbennigo mewn peiriannau awtomatig ar gyfer sustemau rheoli awyrennau. Dychwelodd i Gymru gyda'i deulu yn 1984 gan ymgartrefu yn Llanfairfechan a bu'n dylunio offer daearegol a meddygol i gwmniau lleol. Yn 1992 ymunodd ag IDB Bangor lle bu'n dylunio ar gyfer amryw o brosiectau i'r Llywodraeth, Magnox, gorsafoedd hydro ac eraill. Mae'n swyddog ac yn organnydd mewn capel lleol ac ymddiddora mewn canu corawl, mynydda a thrwsio clociau.