Ein Cyfranddalwyr

Cafodd ein cynnigiad cyfranddaliadau ei lansio gan Iolo Williams, y darlledwr a’r naturiaethwr mewn gwyl yn Abergwyngregyn  - Aber Daba Dw, ar y 13eg o Fedi 2014 a daeth tua mil o bobl yno.

Cododd y cynnigiad cyntaf dros £325,000 cyn y dyddiad cau, sef 30 o Dachwedd 2014. Roedd hyn yn arwyddocaol gan ein bod wedi anelu i godi £300,000 erbyn hynny cyn y gallwn ymroi i adeiladu’r Hydro. Gan fod ddiddordeb yn dal i fod mewn archebu cyfranddaliadau, estynwyd yr amser cyfranu hyd at Ebrill 2015. Erbyn hynny, roedd y swm yn £450,900. Roedd pob punt a godwyd yn lleihau’r benthyciad costus. Yn ogystal a’r cymhelliad ardrethol a oedd ar gael i fuddsoddwyr drwy gynlluniau buddsoddi anturiaethol yr HMRC, rydym wedi gallu talu 5%y.f. ar eu buddsoddiad bob blwyddyn ers 2017-18 pan oedd taliadau i gyfranddalwyr yn dechrau.

Cafodd dau ddosbarth o gyfranddaliadau eu dosbarthu:

A - i’r rhai sydd yn byw o fewn Plwyf Abergwyngregyn;

B - i’r rhai sydd yn byw mewn rhannau eraill o Gymru a thu hwnt. Mae Rheolau’r Gymdeithas yn datgan y bydd 9 Cyfarwyddwr, i fyny i 4 etholedig gan ddosbarth A ac i fyny i 3 dosbarth B a 2 a enwir gan  ARC.

Mae pob cyfranddaliwr yn Aelodau o YAE ac yn gymwys i bleidleisio mewn CCB.  Ond un bleidlais sydd gan cyfranddaliwyr pa nifer bynnag o gyfranddaliadau sydd ganddynt.

Yn 2020, penderfynnodd Bwrdd YAE ad-dalu’r cyfalaf a godwyd i’r Gymdeithas ar y raddfa o un rhan o bymtheg o’u cyfranianiad pob blwyddyn gyda’r bwriad o ddiddymu’r swm a gyfranwyd erbyn 2035, y flwyddyn y bydd terfyn ar FIT. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd incwm y Gymdeithas yn llwyr ddibynnol ar werthiant trydan o dan PPA ac felly, bydd yn llawer llai.  Y rheswm dros y penderfyniad yna oedd lleihau costau parhaol erbyn y dyddiad yma er mwyn sicrhau fod elw’r Gymdeithas yn ddigonol ar gyfer rhoddion blynyddol i Dwr Anafon er budd i’r gymuned. Erbyn y dyddiad yna, bydd pob un o’r cyfranddalwyr a/neu aelodau o gymdeithasau Abergwyngregyn a Llanfairfechan yn cael gwahoddiad i archebu cyfranddaliadau Newydd yn y Gymdeithas gwerth £1. Ni fydd y cyfranddaliadau newydd yn dod a budd ariannol, ond eiddo’r cyfranddalwyr fydd y Gymdeithas i’r dyfodol.

Hydro Anafon oedd y sustem gynhyrchu o faint sylweddol sydd yn eiddo cymunedol gyntaf i gael ei sefydlu yng Ngogledd-Orllewin Cymru, Diolchwn i’n cyfranddalwyr am eu hyder ynom i allu gwireddu’r prosiect. Gyda’ch cymorth chi, rydym yn gallu cynhyrchu trydan adnewyddol o ddyfroedd Anafon , i roi cymorth i’n cymunedau lleol a phrosiectau cymunedol ac i roi adenillion i chi ar eich buddsoddiadau. Rydych wedi rhoi cymorth i greu ynni adnewyddol gan leihau dibyniaeth ar danwydd ffosil a niwclear. Gobeithiwn eich bod yn teimlo’n falch o fod yn rhan o’r gymdeithas arloesol yma, a’ch cefnogaeth o ynni adnewyddol a’ch cyfraniad i ddyfodol mwy gwyrdd a chynaladwy.